Adborth a dderbyniwyd gan athrawon trwy ebost

Annwyl Tim, Diolch o galon am ddod i mewn i weld Blwyddyn 9 ddydd Iau. Unwaith eto, roedd eich sgyrsiau’n agoriad llygad i’r disgyblion am eu dyfodol byd-eang ac roedd eu hymateb i’ch negeseuon yn dda iawn. Yn dilyn eich sgyrsiau rydym wedi trafod eich cyfraniad gyda phob dosbarth ym Mlwyddyn 9 ac maen nhw wedi ei drafod mewn grwpiau ac wedi ysgrifennu am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu. Rydym hefyd wedi gwylio’r clipiau hynod ddefnyddiol. Roedd rhai o’r disgyblion yn benderfynol iawn y dylwn i roi arwydd ‘Yr Adran Ryngwladol’ ar y drws ac mae’n rhaid i mi hefyd osod poster neu ddau am les pays francophones! 

Enghreifftiau o adborth ysgrifenedig gan athrawon ar y diwrnod

"Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ein hymweliadau gan Tim. Rwy'n gwybod ei fod yn mynd i ennyn diddordeb y disgyblion o'r dechrau i'r diwedd. Mae Tim "yn cadw pethe’n real" ac yn siarad gyda'r disgyblion fel oedolion ifanc, sef yr hyn ydyn nhw.

Beth wnaeth eich synnu fwyaf am y wybodaeth a drafodwyd â Tim?

"Faint o gyfleoedd gwaith sydd yna dim ond oherwydd eich bod chi'n gallu iaith arall."

"Gall bod yn siaradwr aml-iaith gynnig cyflogau uwch."

"Gall ieithoedd TGAU fod yn ddefnyddiol ar gyfer llawer o wahanol yrfaoedd nad ydynt bob amser yn gysylltiedig ag iaith."

"Sut y gall prin unrhyw amser arwain at 500 gair mewn unrhyw iaith a hoffech:"

"Bod rhai pobl dalentog a oedd yn fwy na theilwng o gael y swydd ddim yn ei chael oherwydd nad oeddent yn gallu siarad iaith arall."

FaLang translation system by Faboba