Adborth a dderbyniwyd gan athrawon trwy ebost

Helo Tim,

Dim ond e-bost byr i roi gwybod i chi fod ein defnydd TGAU yn bendant yn ymddangos ar gynnydd ac ar ôl ein noson rieni ychydig wythnosau yn ôl, roedd yr adborth gan y rhieni a'r disgyblion yn rhagorol ac fe ddywedodd cryn dipyn o ddisgyblion wrthyf fod y diwrnod y gwnaethoch chi dreulio gyda ni yn Ysgol Maesydderwen yma ym Mhowys wedi cael effaith anferthol arnyn nhw. Fel bob amser, profodd yr amser a dreuliasoch gyda ni yn amhrisiadwy!

Merci beacoup mon ami a phob dymuniad da,

David Barbeau (Mawrth 2023)

-------------------------------

Fe wnaethon ni fwynhau croesawu Tim yn ôl i Adran Ieithoedd Rhyngwladol Caerllion. Trafodwyd ymlaen llaw yr hyn yr oedd yr adran ei eisiau o'i ymweliad ac fe wnaeth Tim ystyried ein hawgrymiadau a'n gofynion. Er mwyn i ni allu targedu ystod o grwpiau blwyddyn, cynigiodd Tim yn garedig iawn i aros am y diwrnod cyfan ac arweiniodd gyflwyniadau a gweithdai amrywiol gyda gwahanol ddosbarthiadau (yn seiliedig ar fy newisiadau). 

Rwy'n credu mai'r uchafbwynt i mi oedd y gweithdy ar y cyd gydag Astudiaethau Busnes Blwyddyn 11 ac Almaeneg Blwyddyn 11. Roedd yn 'drafodaeth' wych ac roedd Tim wir wedi ysbrydoli cymaint o'n dysgwyr. Gwnaeth yr athro Astudiaethau Busnes sylwadau cadarnhaol am y sesiwn hefyd gan fod Tim wir wedi dangos i'n dysgwyr ei ethos carismatig, gweithgar ac ymroddedig i fusnes, tra hefyd yn rhannu ei angerdd am ieithoedd. 

Mae mor awyddus i fynd allan i ysgolion Cymru a'n helpu gyda chyflwr pryderus ITM mewn ysgolion yng Nghymru yr ydym i gyd yn dioddef ohono ar hyn o bryd. Diolch am eich amser Tim ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl y flwyddyn nesaf! 

Alison Mcleod (Ebrill 2023)

-------------------------------

Annwyl Tim, Diolch o galon am ddod i mewn i weld Blwyddyn 9 ddydd Iau. Unwaith eto, roedd eich sgyrsiau’n agoriad llygad i’r disgyblion am eu dyfodol byd-eang ac roedd eu hymateb i’ch negeseuon yn dda iawn. Yn dilyn eich sgyrsiau rydym wedi trafod eich cyfraniad gyda phob dosbarth ym Mlwyddyn 9 ac maen nhw wedi ei drafod mewn grwpiau ac wedi ysgrifennu am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu. Rydym hefyd wedi gwylio’r clipiau hynod ddefnyddiol. Roedd rhai o’r disgyblion yn benderfynol iawn y dylwn i roi arwydd ‘Yr Adran Ryngwladol’ ar y drws ac mae’n rhaid i mi hefyd osod poster neu ddau am les pays francophones! 

-------------------------------

Annwyl Tim, Diolch yn fawr iawn am yr e-bost hyfryd isod, ac am y sgyrsiau a roesoch i’n disgyblion Blwyddyn 7 ac yn enwedig i ddisgyblion Blwyddyn 9! Mae cryn nifer ohonynt wedi gwneud pwynt o alw i mewn i’m gweld i yn ystod eu cyfnodau egwyl i ddweud eu bod yn ystyried gwneud Ffrangeg erbyn hyn. Roedd y disgyblion oedd eisoes am wneud Ffrangeg wedi cael y sgyrsiau’n ddiddorol hefyd.

Credaf fod y negeseuon yn hynod o bwerus pan fyddant yn dod o’r "byd go iawn", fel y dywedwn ni, ac rydych yn cyflwyno eich sgwrs gyda brwdfrydedd mawr. Diolch hefyd am y dolenni a’r syniadau i ni eu datblygu. 

--------------------------------

Dim ond eisiau rhoi gwybod i chi mor ddiolchgar oeddem ni eich bod wedi rhoi o’ch amser i ymweld â’n hysgol.  Roeddwn wrth fy modd yn gwrando arnoch chi’n siarad gyda’r disgyblion ac rwy’n argyhoeddedig bod hyn wedi cael effaith bositif ar eu safbwyntiau nhw am astudio iaith.

Rydym yn cynnal noson opsiynau heno a byddaf yn defnyddio rhai o’ch syniadau wrth drafod gyda’r rhieni.  Yn fwy na dim, roeddwn wrth fy modd gyda’r ffordd y dywedwch wrth y disgyblion eu bod nhw’n creu eu brand eu hunain ac y dylai hwn fod yn frand rhyngwladol.  Rwy’n bwriadu arwain gyda’r syniad hwn!

-------------------------------

Dim ond eisiau rhoi gwybod i chi fy mod wedi dod i’r ysgol yn llawn brwdfrydedd heddiw, yn wên o glust i glust ar ôl noson opsiynau neithiwr. Sôn am lwyddiant!

Roedd fy nghydweithwyr a’r uwch reolwyr yn dweud mor brysur yr oeddem ac mai gennym ni oedd y rhes hiraf o rieni a disgyblion yn aros i gofrestru i wneud Ffrangeg ym mlwyddyn 10. Yn sicr, ni oedd canolbwynt y sylw. Arweiniais gydag un o bwyntiau allweddol Tim, sef bod pob disgybl yn cael ei eni’n frand a bod angen iddyn nhw adeiladu a datblygu’r brand hwnnw er mwyn llwyddo mewn bywyd.

Mae fy nghydweithiwr wedi bod yn defnyddio strategaethau o bob math i danio brwdfrydedd blwyddyn 9 am y TGAU ac rwy’n siŵr bod hyn yn dechrau talu ffordd. Rwy’n argyhoeddedig hefyd bod ymweliad Tim â’n hysgol yn ddiweddar wedi cael effaith enfawr ar godi proffil ieithoedd.

Felly diolch o galon i chi am drefnu’r ymweliad gan Tim.

-------------------------------

Y tro diwethaf i ni siarad, gwnaethoch ofyn i mi roi gwybod i chi faint o effaith a gafodd eich sgwrs â'n disgyblion Bl9 ar ein dewisiadau. Rwyf newydd gael rhestrau o enwau ar gyfer y flwyddyn nesaf a gallaf ddweud wrthych eich bod wedi bod yn ddylanwadol iawn!!! Bydd gennym 2 ddosbarth ym Ml10 ym mis Medi: 1 Ffrangeg (21 disgybl) ac 1 Sbaeneg (9 disgybl). Y flwyddyn gyfredol hon, mae gennym hefyd 2 grŵp (22 + 10) Ffrangeg sydd hefyd yn dda iawn os ydym yn cymharu hyn â blynyddoedd blaenorol (Bl11 cyfredol: 12 disgybl i gyd/Blwyddyn 11 y llynedd: 14 disgybl).

Felly, dros y 2 flynedd diwethaf pan rydych wedi dod i siarad â'n disgyblion, rydym wedi dyblu ein niferoedd! Yn bwysig iawn hefyd rydym bellach wedi arallgyfeirio trwy gynnig 2 iaith. Rydyn ni ar ben ein digon! Efallai nad yw hyn o ganlyniad i’ch dylanwad chi yn unig gan ein bod ni hefyd wedi gwthio mewn ffyrdd eraill, ond un peth sy'n sicr yw bod eich sgyrsiau yn bendant wedi cael effaith enfawr ac wedi bod y mwyaf dylanwadol o'r holl brosiectau rydyn ni wedi'u cyflwyno! Felly, merci mille fois Tim.

--------------------------------

Hoffem i chi ymweld â'r ysgol a siarad â'n dysgwyr ITM eto am bwysigrwydd ieithoedd yn y byd gwaith.

Cawsom ymateb da iawn i'ch sgwrs y llynedd ac fe wnaethom wella’r nifer a ddewisodd astudio Ffrangeg ac Almaeneg gyda 100%. Credwn fod yr hyn a ddywedasoch wrthynt wedi plannu hedyn a dyfodd i'r cyfeiriad iawn i ni!!

--------------------------------

Rydym wrth ein bodd gyda'r nifer sydd wedi dewis astudio ein pynciau eleni - nid oes gennyf y niferoedd pendant ond rwy'n credu ei fod tua dwywaith yr hyn a gawsom y llynedd. Rwy'n credu bod eich ymweliad yn gynnar cyn y dewisiadau wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

--------------------------------

Dim ond eisiau diolch i chi eto am ddod i siarad gyda Blwyddyn 9. Roedd yn ysbrydoledig iawn ac rwy'n siŵr y bydd yn cael yr effaith gadarnhaol a fwriadwyd. Rhyfeddais at sut roedd y plant yn gwrando arnoch yn astud ac yn cymryd rhan weithredol. Rydym yn ddiolchgar iawn eich bod wedi cymryd yr amser i ddod atom.

FaLang translation system by Faboba

From Welshpool High School 1st March 2023