Daeth Tim i gysylltiad ag iaith newydd am y tro cyntaf yn ystod ei yrfa fel joci, pan leolwyd ef am flwyddyn yng nghanolfan rasio fyd-enwog Chantilly, i’r gogledd o Baris. Ac yntau wedi cyrraedd Ffrainc yn methu siarad Ffrangeg o gwbl, datblygodd Tim ddealltwriaeth drylwyr o’r iaith (a siaradai yn ddyddiol wrth ei waith) yn ystod y flwyddyn honno. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at swydd mewn Gwerthiant Allforio yng ngogledd Affrica.
Ymhen amser, sefydlodd ei gwmni allforio ei hun, gan weithredu’n fyd-eang – gan gynnwys cynorthwyo nifer o gynhyrchwyr Almaeneg i ddatblygu eu busnesau yn Ffrainc. Mae Tim yn cyfeirio at y profiad hwn fel ymarfer ieithyddol ardderchog, yn enwedig wrth siarad Ffrangeg â chwsmeriaid a nodi cyfarfyddiadau’r archeb mewn Almaeneg ar yr un pryd.
I ychwanegu grym academaidd i’w sgiliau iaith hunan ddysgedig, astudiodd Tim Ffrangeg yn y Brifysgol Agored, gan radio gyda Diploma mewn Ffrangeg. Yn dilyn hynny astudiodd iaith a diwylliant Ffrainc ymhellach i ennill gradd Prifysgol Agored mewn Astudiaethau Rhyngwladol. Enillodd gymhwyster dysgu gan Brifysgol Cymru (TAR-Tystysgrif Addysg i Raddedigion) a graddiodd o Brifysgol Durham gyda gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes.
Mae Tim wedi cydnabod pwysigrwydd iaith a sgiliau rhyngddiwylliannol i lwyddo mewn busnes erioed, ac wedi’i synnu a’i ddigalonni o glywed bod Cymru’n gweld gostyngiad parhaol yn nifer y disgyblion sy’n dewis astudio Ieithoedd Tramor Modern (ITM) ar gyfer TGAU.
Cafodd foddhad felly o gefnogi’r rhaglen ‘Pencampwyr Ieithoedd Busnes’ gan ddod yn aelod yn 2012, menter sy’n cael ei pharhau yn awr drwy’r cynllun Dyfodol Byd-eang.
Fel rhan o’r rôl hon mae Tim wedi ymweld ag ysgolion ar draws gogledd Cymru, gan rannu llwybr ei yrfa â disgyblion a’u hannog I ystyried o ddifri Ieithoedd Tramor Modern fel rhan o’u dewisiadau pynciau TGAU. Mae adborth disgyblion ar ymweliadau ‘Pencampwyr Ieithoedd Busnes’ yn dangos eu bod yn dal dychymyg y disgyblion, gan eu galluogi I werthfawrogi pwysigrwydd ITM yn y gweithle, ac awgrymu cyfleoedd newydd mewn cyfathrebu amlieithog.
Roedd Tim yn hynod o falch o gael cydnabyddiaeth am ei waith mewn ysgolion ar draws Cymru, gyda gwobr CILT Cymru am y ‘Newydd-ddyfodiad Gorau’ yn 2012, ac ‘Ymrwymiad Unigol Rhagorol’ yn 2014. Mae ei waith yn y maes hwn yn parhau drwy’r cynllun Dyfodol Byd-eang, ac yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf mae Tim wedi ymweld â 112 o ysgolion ar draws Cymru ar ran y 4 Consortiwm yng Nghymru GwE, CSC, EAS ac ERW.