Fy awgrymiadau ar sut i baratoi orau at ymweliad gan Tim.

Hanerais y grŵp ac fe dreuliodd o awr gyda phob hanner. Mae gan Tim ddigonedd o ddeunydd i’w drafod ac mae’n syndod pa mor gyflym mae sesiwn yn mynd rhagddi. Eleni, ei ffocws oedd personoli dysgu a gwneud ieithoedd yn berthnasol i gynlluniau gyrfaoedd, hobïau a diddordebau disgyblion. Roedd ffocws hefyd ar y ffaith bod pob swydd yn rhyngwladol ac mae hi’n bwysig pwysleisio nad dim ond ar gyfer swyddi traddodiadol fel athro neu gyfieithydd mae ieithoedd yn bwysig.

Gwnes yn siŵr bod y lleoliad yn addas, bod taflunydd/gliniadur ar gael, a bod y disgyblion yn eistedd fel eu bod nhw mewn cynhadledd. Siaradais ymlaen llaw gyda’r disgyblion ynglŷn â’r ffaith bod y sgwrs yn sôn am eu dyfodol byd-eang nhw. Gwnes yn siŵr bod pennaeth y flwyddyn yn bresennol a bod Tîm Arwain yr ysgol yn cwrdd â Tim. Roedd hi’n bwysig i mi gynnwys athrawon o bynciau eraill, felly gofynnais i athrawon Gwyddoniaeth, Drama, Hanes, a Thechnoleg Gwybodaeth (TG) ddod i wrando, yn ogystal â’r dosbarthiadau TGAU Almaeneg, Mandarin, ac un myfyriwr lefel A Ffrangeg. Fe wnaeth Tim sicrhau eu bod nhw i gyd yn rhan o’r sgwrs!

Byddwn yn argymell bod yr holl flwyddyn yn cael y cyfle hwn (yma, mae yna opsiynau i flwyddyn 8, felly hwn oedd y grŵp targed, ond fe wnes i wahodd 14 disgybl o flwyddyn 9 hefyd.) Hefyd, awgrymaf nad yw’r sgwrs yn cael ei chynnig i’r rhai mwyaf abl yn unig. dweud y gwir, rwy’n teimlo fod y disgyblion llai abl wedi cael budd mawr o’r sesiwn - nhw oedd sêr pob sioe! Bachgen â’i fryd ar fod yn saer oedd y ffocws, ac fe eglurwyd sut fasai Ieithoedd Modern/ieithoedd rhyngwladol yn bwysig iddo fo yn y dyfodol. Felly, mae hyn yn annog trafodaethau am bwysigrwydd Ieithoedd Modern o ran dysgu crefft ac Astudiaeth Bellach yn ogystal â llwybr traddodiadol Astudiaethau Uwchradd.

FaLang translation system by Faboba